Dyma chwip o addasiad o Football Academy: Boys United, a bydd hwn yn at ddant sawl plentyn trwy Gymru yn dilyn llwyddiant ysgubol Ewro 2016. Gorau chwarae, cyd chwarae dyna'r neges a atseiniodd drwy'r cyfandir pan ddaeth Bale a Ramsey ar y caeau pl-droed Ffrengig y llynedd, ac mae'r neges honno yr un mor gref yma. Er i chwaraewyr rhyngwladol ddisgleirio ar y cae a moethusrwydd eu bywydau yn hysbys i'r byd a'r betws, mae cyrraedd uchelfannau'r byd pl-droed yn bell o fod yn hawdd. Wrth i Gwilym roi o'i orau a mynd am ei freuddwydion, dydi pethau ddim yn fl i gyd. Mae Academi Caerdydd ar y gorwel, ond mae angen brwydro am le. Mewn maes mor gystadleuol, diolch byth fod ei dad yn gefn iddo. Wedi'r cyfan, dydi pawb ddim mor lwcus. Yn llawn gorfoledd ar brydiau, ac ar adegau eraill yn llawn siom, mae'r gyfres hon yn portreadu'n onest beth yw bywyd pl-droedwyr ifanc, ac yn hynny o beth yn addas dros ben i blant oed ysgol. Mae pawb o'r oedran hwnnw mewn 'cystadleuaeth' o bryd i'w gilydd, ac er bod y gyfrol hon wedi ei hanelu at fechgyn, o bosib, mae 'gorau chwarae, cyd chwarae' yn wers i ni i gyd ac mae naws hynod o Gymreig i'r addasiad drwyddo draw. Llinos Griffin Gellir defnyddio'r adolygiad hwn at bwrpas hybu, ond gofynnir i chi gynnwys y gydnabyddiaeth ganlynol: Adolygiad oddi ar www.gwales.com, trwy ganiatd Cyngor Llyfrau Cymru. It is possible to use this review for promotional purposes, but the following acknowledgment should be included: A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council. -- Cyngor Llyfrau Cymru