Cyhoeddwyd tri llyfr gan awdur Jon Roberts gyda Graffeg yn barod, sef Drwy Fy Llygaid I, Drwy Ein Llygaid Ni, ac Edrychwch Beth Fedra i Wneud!. Mae'r llyfrau yn tynnu sylw at brofiadau ei ferch, Kya sy'n byw gydag awtistiaeth, ac yn cyflwyno nodweddion awtistiaeth i blant yn ogystal ag anableddau eraill. Mae Jon yn byw yn Abertawe. Artist annibynnol a darlunydd ydy Hannah Rounding o Geredigion. Mae ei gwaith gyda Graffeg yn cynnwys Drwy Fy Llygaid I, Drwy Ein Llygaid Ni ac Edrychwch Beth Fedra i Wneud!, sef teitlau gan Jon Roberts, a What Can You See? gan Jason Korsner.