Produktinformation
- Utgivningsdatum:2025-02-27
- Mått:129 x 198 x 50 mm
- Vikt:436 g
- Format:Häftad
- Språk:Kymriska
- Antal sidor:328
- Förlag:Graffeg Limited
- ISBN:9781802587142
- Översättare:Iorwerth, Rhys
Utforska kategorier
Mer om författaren
Mae Miriam Halahmy wedi cyhoeddi nofelau, straeon byrion a barddoniaeth i oedolion a phobl ifanc. Mae ei straeon a’i cherddi wedi ymddangos mewn casgliadau, wedi cael eu darllen ar y radio, wedi cael eu perfformio ar lwyfannau, ac wedi cael eu gosod i gerddoriaeth. Cymeriadau cryf a sefyllfaoedd o fywyd go iawn yw cerrig sylfaen ei nofelau. Barn Miriam yw y dylai pawb barchu gobeithion, ofnau, breuddwydion ac, yn fwy na dim, berthnasau pobl yn eu harddegau.Mae Miriam yn byw yn Llundain. Mae hi’n briod ac mae ganddi ddau o blant sy’n oedolion bellach. Pan na fydd hi’n ysgrifennu, mae hi’n mwynhau paentio, teithio, ymweld â’i hoff le ar lan y môr, a threulio amser yng nghwmni’i theulu. Mae Miriam yn dal i weithio ar nofelau i bobl ifanc, ac mae’n mwynhau cwrdd â’i chynulleidfa mewn ysgolion a cholegau ac mewn gwyliau llyfrau o amgylch y Deyrnas Unedig ac ar y cyfandir.
Recensioner i media
‘Dyma nofel sy’n symud ar wib... Er bod y deunydd yn dywyll, mae Miriam Halahmy yn llwyddo i’w drin â chyffyrddiad ysgafn. Fe wnes i fwynhau’n arw.’ Anne Cassidy‘Stori arw, deimladwy a phrin am fywyd oedolion ifanc bregus sydd ar fin dod yn ddigartref, a’r rheini’n chwilio am gysur a chyfeillgarwch gan ei gilydd.’ Sita Brahmachari