Bokus
Rhiannon Marks - Y Dychymyg Ol-Fodern, Häftad

Häftad, Kymriska, 2020

Y Dychymyg Ol-Fodern

Agweddau ar ffuglen fer Mihangel Morgan

Av Rhiannon Marks

Del i serien University of Wales Press

345 kr

Beställningsvara. Skickas inom 5-8 vardagar. Fri frakt över 249 kr.

Beskrivning
Cyfrol arbrofol o feirniadaeth greadigol yw hon, sy'n cynnig golwg ffres ar ffuglen fer y llenor nodedig Mihangel Morgan (1955-). Hon yw'r astudiaeth estynedig gyntaf o'i waith, a rhoddir sylw penodol i'r wyth cyfrol o ffuglen fer a gyhoeddodd rhwng 1992 a 2017 - cyfnod lle gwelwyd datblygiadau arwyddocaol ym maes rhyddiaith Gymraeg. Eir i'r afael a phynciau megis ffurf y stori fer, realaeth, moderniaeth ac ol-foderniaeth, a thrwy osod gwaith Mihangel Morgan yn ganolbwynt i'r astudiaeth cynigir golwg ehangach ar ddatblygiad a derbyniad ffuglen fer ol-fodernaidd Gymraeg a'i harwyddocad i'n diwylliant llenyddol. Arbrofir yma am y tro cyntaf yn y Gymraeg a beirniadaeth lenyddol ar ffurf ffuglen academaidd er mwyn archwilio'r ffin dybiedig rhwng 'ffaith' a 'ffuglen'. Dilynir hynt a helynt y cymeriad ffuglennol Dr Mari Non yn ei swydd brifysgol, law yn llaw a thrafodaeth ar ddarnau o ffuglen fer Mihangel Morgan, gan agor y drws ar ddeongliadau newydd o waith yr awdur.
Produktinformation
Utforska kategorier
Mer om författaren

Daw Rhiannon Marks yn wreiddiol o Gil-y-Cwm, Sir Gar, ac fe'i haddysgwyd ym Mhrifysgol Aberystwyth a Choleg Iesu, Rhydychen. Mae'n ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn arbenigo mewn llenyddiaeth gyfoes a theori lenyddol. Enillodd ei chyfrol academaidd gyntaf, 'Pe Gallwn, Mi Luniwn Lythyr': Golwg ar Waith Menna Elfyn Wobr Goffa Syr Ellis Griffith yn 2015.

Betyg & recensioner

0 recensioner

Inga recensioner tillgängliga.