Enillodd Llŷr Gwyn Lewis gadair Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 a dyma ei drydedd gyfrol o farddoniaeth. Am flynyddoedd bu'n talyrna â'r Ffoaduriaid ac yn ymrysona yng nghwmni'r Penceirddiaid. Mae hefyd yn awdur dwy gyfrol ryddiaith, sef Rhyw Flodau Rhyfel a Fabula. Mae'n byw yn Rhuthun efo Lowri a'u tri o feibion.
Recensioner i media
'Beryg mai dyna pam dw i'n ysu am afael ynddynt, eu cipio gerfydd eu gwar a rhedeg gyflymed ag y medraf rhag ofn, os gadawa i iddyn nhw grwydro'n rhy hir y colla i nhw yno'n rhywle ac na ddônt allan byth eto'r pen arall...'