Artist o America yw Sarah Zoutewelle-Morris, sy'n byw yn Holland gyda'i gŵr, sy'n saer coed, a'u ci, Lucie.Mae hi'n defnyddio ei chreadigrwydd ar draws amrywiaeth eang o ddisgyblaethau, yn cynnwys dylunio graffeg, dylunio a darlunio llyfrau, caligraffeg, celfyddyd gain, addurno offerynnau cerdd hynafol, a gweithio fel artist mewn gofal iechyd.Yn ei sesiynau hyfforddi a'i gweithdai creadigrwydd, mae hi’n annog pobl sydd ag ychydig o brofiad mewn celf, neu ddim o gwbl, i feddwl yn fwy creadigol a'u mynegi eu hunan mewn cyfryngau amrywiol. Mae hi wedi ysgrifennu erthyglau ar y broses greadigol ar gyfer y Journal of Dementia Care a chyhoeddiadau eraill.Chocolate Rain yw ei llyfr cyntaf hi. Ei gwefan yw: www.artcalling.worldpress.com