Bokus
Rhianedd Jewell, Rhiannon Heledd Williams - Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes, E-bok

E-bok, Kymriska, 2022

Y Gymraeg a Gweithle’r Gymru Gyfoes

Av Rhianedd Jewell, Rhiannon Heledd Williams

284 kr

Läs direkt i Bokus Reader – eller ladda ned till din enhet

Beskrivning
Mae’r byd gwaith yng Nghymru a’r Gymraeg fel disgyblaeth yn esblygu yn sgil y galw cynyddol am weithwyr proffesiynol â sgiliau dwyieithog. Mae’r gyfrol ryngddisgyblaethol hon yn cyfuno lleisiau o’r byd academaidd a’r byd proffesiynol er mwyn archwilio i arwyddocâd a rôl y Gymraeg mewn gweithleoedd yn y Gymru gyfoes, ymateb y sectorau addysg a recriwtio i anghenion gweithwyr a sefydliadau, a rôl gwneuthurwyr polisi yn natblygiad yr iaith mewn cyd-destun proffesiynol. Sut mae gwella sgiliau dwyieithog gweithwyr? Er gwaethaf ewyllys da nifer o sefydliadau, a yw sgiliau Cymraeg eu gweithwyr yn cael eu cymhwyso? Beth yw buddiannau'r Gymraeg i weithleoedd, a beth yw’r heriau y maen nhw’n eu hwynebu wrth weithredu a chynnig eu gwasanaethau’n ddwyieithog? Beth yw rôl y Llywodraeth a Chomisiynydd y Gymraeg yn y fath ddatblygiadau? Wrth ystyried a thrafod y cwestiynau hyn, gofynnir sut y mae polisïau, cyfreithiau a safonau iaith yn effeithio ar y gweithle cyfoes yng Nghymru.
Produktinformation
  • Utgivningsdatum: 2022-07-15
  • Språk: Kymriska
  • Filformat: EPUB
  • Kopieringsskydd: LCP
  • ISBN: 9781786838827
  • Förlag: University of Wales Press
Utforska kategorier
Mer om författaren

Ieithydd ac academydd yw Rhianedd Jewell, sy’n arbenigo ym maes astudiaethau cyfieithu. Mae hi’n uwch ddarlithydd mewn Cymraeg Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth.Mae Rhiannon Heledd Williams yn Rheolwr Cydlynu’r Berthynas gyda’r Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ’r Cyffredin. Bu cyn hyn yn arbenigwr gyda’r Pwyllgor Dethol Materion Cymreig, yn gweithio ym maes craffu gwleidyddol, ac yn ddarlithydd yn y Gymraeg.

Betyg & recensioner

0 recensioner

Inga recensioner tillgängliga.