Bokus
T. Robin Chapman - Rhwng Cromfachau, E-bok

E-bok, Kymriska, 2026

Rhwng Cromfachau

Bywyd, Gwaith a Byd R. T. Jenkins

Av T. Robin Chapman

266 kr

Läs direkt i Bokus Reader – eller ladda ned till din enhet

Beskrivning
Yn ôl Emlyn Evans, cafodd R. T. Jenkins (1881–1969) fyw bywyd ‘digyffro a diddigwydd’. Anodd anghydweld. Ni sonia R.T. yn unman am dröedigaeth na chyflafan, ecstasi na gwae, rhwystredigaeth na dylanwad ffurfiannol yn ei fywyd personol. Fel ffigwr cyhoeddus hefyd, ymgadwodd yn gydwybodol rhag lleisio barn gorbendant a dadleuol. Chwilia rhywun yn ofer am broffwydoliaeth na galwad i’r gad ganddo ar y pynciau llosg a gyffrôi ei gyfoeswyr yng nghanol yr ugeinfed ganrif: cyflwr a dyfodol cefn gwlad ac addysg, crefydd a’r iaith Gymraeg – a Chymru ei hun. Bodlonodd, yn ôl ei addefiad ei hun, ar fod yn fodlon. ‘Wrth edrych yn ôl,’ meddai yn ei hunangofiant, ‘“lwc” a welaf fi ym mhobman ar fy ngyrfa.’ Sut, felly, mae mapio bywyd mor wastad? Yn y cofiant hwn, eir ati i ddeall R. T. Jenkins ‘rhwng cromfachau’, sef trwy ei ddeall nid yn gymaint yn nhermau personoliaeth a lwc ag fel cynnyrch ei oes.
Produktinformation
Utforska kategorier
Betyg & recensioner

0 recensioner

Inga recensioner tillgängliga.