Bokus
Gethin Matthews, Meilyr Powel - Llunio Hanes, Häftad

Häftad, Kymriska, 2022

Llunio Hanes

Hanesyddiaeth a Chrefft yr Hanesydd

Av Gethin Matthews, Meilyr Powel

Del i serien University of Wales Press

280 kr

Skickas tisdag 10/11. Fri frakt över 249 kr.

Beskrivning
Mae’r gyfrol hon yn cynnwys casgliad o benodau gan nifer o haneswyr ac ysgolheigion sydd yn cyflwyno rhai o brif themâu a chysyniadau hanes. Gan ddwyn y teitl Llunio Hanes, mae’r gyfrol yn archwilio a chrynhoi’r gwahanol ffyrdd y mae haneswyr wedi ysgrifennu, ac yn parhau i ysgrifennu, hanes. Yn ei hanfod, dyma gyflwyniad i hanesyddiaeth – yr astudiaeth o ysgrifennu hanes – gyda’r nod o ymgynefino’r darllenydd ag ‘offer’ yr hanesydd, ac i esbonio’r fethodoleg y tu ôl i ddeongliadau hanesyddol. Mae’r awduron yn ein tywys ar hyd llinyn amser, gan dynnu ar agweddau Ewropeaidd a thu hwnt er mwyn olrhain datblygiad hanes fel disgyblaeth proffesiynol. Wrth archwilio hanes cenedlaethol, hanes Marcsaidd, hanes o’r gwaelod, hanes llafar, hanes menywod, hanes diwylliannol, ôl-strwythurol, y darostyngol a’r hollfydol, mae’r gyfrol yn ystyried sut y mae meysydd a disgyblaethau eraill yn dylanwadu ar grefft yr hanesydd.
Produktinformation
Utforska kategorier
Mer om författaren

Cwblhaodd Meilyr Powel ddoethuriaeth ar brofiad Cymru yn y Rhyfel Byd Cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, 2018. Mae’n gweithio i Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Mae Gethin Matthews yn uwch-ddarlithydd i’r Adran Hanes, Treftadaeth a’r Clasuron ym Mhrifysgol Abertawe.

Betyg & recensioner

0 recensioner

Inga recensioner tillgängliga.