E-bok, Kymriska, 2023
Cranogwen
Av Jane Aaron
Del i serien Dawn Dweud
318 kr
Läs direkt i Bokus Reader – eller ladda ned till din enhet (PDF kräver ofta zoom och scroll på små skärmar).
Fler format och utgåvor
Beskrivning
Yn oes Fictoria, ystyriwyd menywod yn anaddas ac anabl ar gyfer pob arweinyddiaeth gyhoeddus a deallusol. Ond llwyddodd Cranogwen, sef Sarah Jane Rees (1839–1916) o Langrannog, i ennill parch ac enwogrwydd fel bardd, darlithydd, golygydd, pregethwraig, dirwestwraig – ac ysbrydolwraig to newydd o awduresau a merched cyhoeddus. Mae’r gyfrol hon yn dilyn ei thrywydd er mwyn deall pam a sut y cododd Cranogwen, benyw ddibriod o gefndir gwerinol, i’r fath fri a dylanwad ymhlith Cymry ei hoes. Teflir goleuni newydd hefyd ar ei bywyd carwriaethol cyfunrywiol, a’i syniadau arloesol ynghylch rhywedd.Cyhoeddwyd cyfrolau bywgraffiadol ar Cranogwen ym 1932 a 1981, ond oddi ar hynny mae twf y mudiad ffeminyddol wedi ysgogi llawer astudiaeth (ar awduron benywaidd a lesbiaid y bedwaredd ganrif ar bymtheg, er enghraifft, ac ar wragedd mewn cymunedau morwrol) sy’n berthnasol iawn i’w hanes. Yng ngoleuni’r holl ddeunydd ychwanegol hyn, ceir yn y gyfrol hon ddarlun newydd o’i bywyd a’i dylanwad.
Produktinformation
- Utgivningsdatum: 2023-04-15
- Språk: Kymriska
- Filformat: PDF
- Kopieringsskydd: LCP
- ISBN: 9781837720262
- Förlag: University of Wales Press
- Serie: Dawn Dweud
Utforska kategorier
Mer om författaren
Athro Emerita yn Ysgol y Dyniaethau ym Mhrifysgol De Cymru yw Jane Aaron ac awdur A Double Singleness: Gender and the Writings of Charles and Mary Lamb (1991), Pur fel y Dur: Y Gymraes yn Llên Menywod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (1998), Nineteenth-Century Women’s Writing in Wales (2007), Welsh Gothic (2013) a chyd-awdur Welsh Writing in English, 1536-1914 (2020).
Betyg & recensioner
0 recensioner
Inga recensioner tillgängliga.